Alla' i ddim talu fy nyfarniad
Tudalen 12 o 12
Crynodeb
Mae arnoch chi arian i unigolyn neu gwmni (yr hawlydd). Mae'r hawlydd yn mynd at y llys am nad ydych wedi talu. Mae'r llys yn gwneud dyfarniad yn gorchymyn i chi dalu'r arian. Mae'r tabl yn dangos pa ddewisiadau sydd ar gael i chi neu'r hawlydd.
1. Rydych chi'n talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
2. Allwch chi ddim talu'r arian sy'n ddyledus gennych » Rydych yn gofyn am orchymyn wedi'i amrywio er mwyn gostwng y swm y mae angen i chi dalu bob mis » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
3. Dydych chi ddim yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych » Mae'r hawlydd yn cymryd camau pellach neu mae'r hawlydd yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth (gorchymyn i gael gwybodaeth).
Os yw'r hawlydd yn cymryd camau pellach:-
- Gwarant i weithredu - anfon beilïaid i gasglu'r arian neu gymryd a gwerthu rhai o'r pethau sy'n eiddo i chi:
» Rydych yn gofyn am orchymyn wedi'i amrywio (ac am ohirio'r warant) er mwyn gostwng y swm y mae angen i chi ei dalu bob mis » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych. NEU
» Bydd rhaid i chi dalu costau'r camau a gymerwyd gan yr hawlydd » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
- Atafaelu enillion - trefnu i'ch cyflogwr dynnu'r arian yn syth o'ch enillion.
» Bydd rhaid i chi dalu costau'r camau a gymerwyd gan yr hawlydd » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
- Gorchymyn arwystlo - eich rhwystro chi rhag gwerthu eiddo neu dir rydych yn berchen arno oni bai eich bod chi'n talu'ch dyled.
» Bydd rhaid i chi dalu costau'r camau a gymerwyd gan yr hawlydd » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
- Gorchymyn dyled trydydd parti - gorchymyn i'ch banc neu i'ch cymdeithas adeiladu dalu'r swm yn syth o'ch cyfrif.
» Bydd rhaid i chi dalu costau'r camau a gymerwyd gan yr hawlydd » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
Os yw'r hawlydd yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth (gorchymyn i gael gwybodaeth):-
» Rydych chi'n rhoi'r wybodaeth. Efallai hefyd eich bod am gynnig ad-dalu'r arian sy'n ddyledus gennych fesul rhandaliadau misol.
» Gall yr hawlydd gytuno i chi ad-dalu fesul rhandaliadau, a faint y byddwch chi'n ei dalu bob mis
» Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych neu dydych chi ddim yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych ac mae'r hawlydd yn cymryd camau pellach.
4. Mae gennych ddyledion eraill. Cyfanswm eich dyled yw £5000 neu lai. Fe gewch wneud cais am orchymyn gweinyddu » Rydych yn talu'r arian sy'n ddyledus gennych.
Os bydd yr hawlydd yn cymryd camau pellach yn eich erbyn neu os cynhelir gwrandawiad, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhagor o gostau. Ychwanegir y rhain at y swm sy'n ddyledus gennych.
