Alla' i ddim talu fy nyfarniad
Tudalen 11 o 12
Beth os oes gen i ddyfarniadau neu ddyledion eraill i'w talu'n barod?
Os oes gennych ddyfarniadau neu ddyledion eraill i'w talu a'ch bod yn ei chael hi'n anodd trefnu eich taliadau, fe allwch ofyn i'r llys am 'orchymyn gweinyddu'. I gael gorchymyn gweinyddu, rhaid bod gennych chi o leiaf un dyfarniad a rhaid i gyfanswm eich dyledion fod yn llai na £5000.
Os bydd y llys yn caniatáu i chi gael gorchymyn gweinyddu gallwch dalu eich dyledion i gyd (gan gynnwys y dyledion lle nad oes dyfarniad yn eich erbyn) drwy wneud un taliad i'r llys bob wythnos neu bob mis. Tra byddwch chi'n talu gorchymyn gweinyddu, ni chaiff y bobl y mae arnoch chi arian iddyn nhw (eich credydwyr) gymryd camau pellach yn eich erbyn i gael eu harian heb ofyn i'r llys gyntaf. Hefyd, ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw log.
Bydd rhaid ichi dalu ffi am orchymyn gweinyddu, ond bydd hynny'n cael ei ychwanegu at y swm sy'n ddyledus gennych eisoes. Does dim rhaid i chi dalu'r ffi i gyd ar unwaith.
Pan fydd y llys yn gwneud gorchymyn gweinyddu, bydd yn cofnodi'r gorchymyn ar Gofrestr Dyfarniadau'r Llys Sirol. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n anodd i chi gael credyd nes i chi dalu eich dyledion i gyd.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am orchymyn gweinyddu gan swyddfa unrhyw lys sirol neu gan eich canolfan gynghori leol. Bydd arnoch angen Ffurflen N270 (Nodiadau canllaw - llenwi cais am orchymyn gweinyddu).
Os bydd y llys yn gwneud gorchymyn gweinyddu, rhaid i chi dalu'r taliadau'n rheolaidd neu fe ellir dileu'r gorchymyn. Gofynnwch i'r llys beth i'w wneud os na allwch chi dalu.
Cofiwch:
- Os oes gennych ddyfarniad llys sirol yn eich erbyn, rhaid i chi wneud rhywbeth, hyd yn oed os na allwch chi fforddio'r swm y dywedwyd wrthych am ei dalu.
- Os byddwch chi'n gwneud dim, mae'n debyg y bydd yr hawlydd yn cymryd mwy o gamau i'ch gorfodi i dalu. Bydd hyn yn golygu rhagor o gostau, yn fwy o draul ar eich amser ac yn peri anhwylustod i chi.
