English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Ffioedd y Llys Sirol Gorfodi Dyfarniad

Adnoddau pellach

Awdurdod Gwasanaethau Ariannol Canolfan Cyngor ar Bopeth Registry Trust Cyfyngedig Y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol Y Swyddfa Masnachu Teg

Alla' i ddim talu fy nyfarniad


Tudalen 10 o 12

Gaiff yr hawlydd gymryd unrhyw gamau eraill yn fy erbyn?

Os nad yw'r hawlydd yn siwr pa fath o orfodaeth i'w ddefnyddio, efallai y bydd gorchymyn i gael gwybodaeth yn help. Ffordd yw hon o gael gwybod am eich incwm a'ch gwariant i'ch helpu i benderfynu beth i'w wneud nesaf. Caiff yr hawlydd wneud cais am orchymyn i gael gwybodaeth unrhyw bryd, hyd yn oed os nad ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch taliadau.

Bydd y llys yn dweud wrthych pryd i ddod i'r gwrandawiad. Bydd gofyn i chi ddod ag unrhyw ddogfennau ynghylch eich sefyllfa ariannol gyda chi, megis:

Rhaid i chi fynd i'r gwrandawiad. Os na fyddwch chi'n mynd, fe allwch gael eich arestio a'ch anfon i garchar am hyd at ddwy flynedd.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad?

Cynhelir y gwrandawiad mewn sesiwn preifat. Yn gyntaf, gofynnir i chi addo dweud y gwir ('tyngu llw' neu 'gadarnhau'). Yna, bydd un o swyddogion y llys yn gofyn cwestiynau i chi am eich sefyllfa ariannol. Caiff yr hawlydd hefyd fynd i'r gwrandawiad i ofyn cwestiynau i chi.

Am eich bod chi 'dan lw' rhaid i chi roi atebion gwir i bob cwestiwn a ofynnir i chi. Os gallwch chi, rhowch dystiolaeth ysgrifenedig i gefnogi beth a ddywedwch. Efallai y cewch chi'ch anfon i garchar os na ddywedwch chi'r gwir am eich sefyllfa ariannol.



Nesaf>>


Tudalen Flaenorol


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 15 September 2005 11:54. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .