Gorfodi dyfarniad
Os ydy llys wedi penderfynu bod rhaid i rywun dalu swm o arian i chi (dyfarniad) ac nad ydych chi wedi'i dderbyn, efallai y byddwch am ofyn i'r llys orfodi'r gorchymyn.
Yn gyntaf, dylech ddarllen y canllawiau a elwir yn Rwyf wedi cael dyfarniad ond dydy'r diffynnydd ddim wedi talu - beth alla i ei wneud? (Taflen EX321). Mae'n esbonio beth sydd ar gael i'ch helpu chi i gael eich arian yn ôl (a elwir yn 'orfodi eich dyfarniad') a pha un o'r dulliau gorfodi sydd ar gael sydd fwyaf tebygol o lwyddo dan wahanol amgylchiadau.
Gallwch geisio cael eich arian trwy ofyn i'r llys am unrhyw un o'r canlynol:
- Gwarant i weithredu (Taflen EX322) - anfon beili llys i gasglu'r arian.
- Gorchymyn atafaelu enillion (Taflen EX323) - tynnu'r arian o gyflog y diffynnydd.
- Gorchymyn dyled trydydd parti (Taflen EX325) - rhewi arian y diffynnydd sy'n cael ei ddal, er enghraifft, mewn cyfrif banc; neu
- Gorchymyn arwystlo (Taflen EX325) - caiff yr arian ei dalu ar ôl gwerthu ty'r diffynnydd.
Gallwch hefyd wneud cais i alw'r diffynnydd i'r llys i gael Gorchymyn i gael gwybodaeth (Taflen EX324). Nid ffordd ar gyfer ceisio adfer yr arian sy'n ddyledus yw hon ond cyfweliad i ddod o hyd i wybodaeth am sefyllfa ariannol y diffynnydd.
