Gwasanaethau ar- lein
Bydd yr adran hon yn dweud popeth wrthych am Wasanaethau Ar-lein, gyda thestun eglurhaol a hyperddolenni.
Mae eLIS (electronic Library and Information Services - Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth electronig) yn darparu gwybodaeth gyfreithiol i'r farnwriaeth, Gweinyddiaeth Cyfiawnder a Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth porth i wybodaeth gyfreithiol allweddol ar y Rhyngrwyd.
Nid yw'r gwasanaeth ym ar gael yn y Gymraeg.
Dyma wasanaeth dros y we gan Wasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi ar gyfer hawlwyr a diffynyddion. Defnyddiwch y broses hawdd, hwylus a diogel hon i wneud hawliad am arian, neu ymateb i hawliad ar y we. Ceir hefyd arweiniad i ddefnyddwyr fel y gallant ddod yn gyfarwydd â'r safle cyn symud ymlaen i wneud hawliad.
Possession Claim Online Project (PCOL)
Nod y Possession Claim Online Project yw rheoli hawliadau ar gyfer meddiannu eiddo preswyl am beidio â thalu rhent neu forgais.
Ffurflenni Ar-lein
Nid yw'r gwasanaeth Ffurflenni Ar-lein ar gael ar hyn o bryd wrth i newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud i'r safle. Ymddiheurwn os bydd hyn yn peri unrhyw anhwylustod i chi. Tan fod modd rhoi'r gwasanaeth yn ôl ar waith, bydd angen cyflwyno ffurflenni i'ch llys lleol yn y ffordd arferol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch llys sirol lleol.
XHIBIT
Mae hwn yn darparu gwybodaeth am wrandawiadau yn rhai Llysoedd y Goron. I weld statws dyddiol unrhyw Lys y Goron, ymwelwch â rhestr Llys y Goron XHIBIT i gael mwy o wybodaeth.
