Gwasanaeth rheithgor
Efallai eich bod yn un o'r llawer o bobl sy'n cael eu dewis i wneud gwasanaeth rheithgor.
Fel rheithiwr, fe gewch gyfle i chwarae rhan allweddol yn y system gyfreithiol. Yma, cewch wybod beth sy'n digwydd yn y llys ac am eich swyddogaeth fel rheithiwr.
Fel arfer, bydd rheithwyr yn gwrando'r achosion troseddol mwy difrifol megis llofruddiaeth, trais rhywiol, ymosod, byrgleriaeth neu dwyll. Cynhelir y treialon hyn yn Llys y Goron.
Weithiau bydd angen rheithwyr mewn achos sifil, megis enllib. Ni fydd hyn yn digwydd yn aml. Pan fydd yn digwydd, fel arfer fe gynhelir y treial yn yr Uchel Lys neu'r Llys Sirol.
Bydd gan reithiwr mewn achos sifil swyddogaeth debyg i reithiwr mewn achos troseddol ond mae ambell wahaniaeth pwysig. Esbonnir y rhain i chi os byddwch chi'n rheithiwr mewn achos sifil.
I'r rhan fwyaf o bobl, mae gwasanaethu ar reithgor yn ddiddorol ac yn rhywbeth na fyddan nhw ond yn ei wneud unwaith yn eu hoes. Fodd bynnag, fe all y teithio ychwanegol neu'r cyfrifoldeb fod yn straen. Cofiwch na fyddwch ar eich pen eich hun fel rheithiwr, ac, os cewch unrhyw anhawster, gallwch siarad ag un o swyddogion y llys.
Mae'n bosibl y cewch chi'ch gwysio i ddod i Lys y Goron i wasanaethu ar y rheithgor am gyfnod. Mae gan reithwyr swyddogaeth bwysig yn y drefn cyfiawnder troseddol, a rhaid iddynt benderfynu, ar sail y ffeithiau, a yw diffynnydd yn euog neu beidio.
Fel rheithiwr, fel arfer, gofynnir i chi wasanaethu am gyfnod o ddeg diwrnod gwaith, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, fe allech eistedd ar fwy nag un achos. Wrth gwrs, os bydd treial yn parhau'n hwy na hynny, byddai disgwyl i'r rheithgor eistedd drwyddo i gyd, ond byddai gennych hawl i gael costau yn ystod y treial.
Gallwch holi'r Llys y Goron y gofynnwyd i chi wasanaethu ynddo am fwy o wybodaeth amdanoch chi a'ch gwasanaeth rheithgor. Bydd y staff yno'n gallu rhoi gwybodaeth i chi am gyfleusterau'r llys a hefyd am hawlio costau teithio a chostau eraill.
Yn ogystal, bydd aelod o staff Gwasanaeth Llysoedd ei Mawrhydi ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych a hefyd yn dangos fideo i chi am y gwasanaeth rheithgor y gallwch chi ei gwylio neu wrando arni, cyn i'ch gwasanaeth ddechrau.
Rheithiwr Ar-Lein - bydd y safle hwn yn eich arwain drwy drefn y gwasanaeth rheithgor ac yn esbonio'r camau a'r trefniadau y byddwch chi'n profi pan ddewch i'r llys i wasanaethu. Wrthi chi fynd drwy'r safle, fe gewch atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych.
