Gwybodaeth am Wasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi
Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi (GLlEM) yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Ein pwrpas yw gweinyddu cyfiawnder yn effeithiol ac yn effeithlon i'r cyhoedd.
Ein nod yw'r canlynol:
“Mae gan bob dinesydd hawl i gael mynediad at gyfiawnder yn unol â'u gwahanol anghenion, boed hynny fel dioddefwyr troseddau, diffynyddion a gyhuddwyd o gyflawni trosedd, defnyddwyr mewn dyled, plant ag angen gofal neu bobl fusnes mewn anghydfodau masnachol. Ein nod yw sicrhau bod llwybr ar agor cyn gynted ag y bo modd ac am y gost isaf a hynny'n gyson â chyfiawnder agored a bod gan ddinasyddion fwy o hyder yn y system cyfiawnder, a mwy o barch tuag ati."
Sut y trefnir GLlEM
Mae GLlEM wedi ei strwythuro i 25 ardal o fewn 7 rhanbarth yn ogystal â grwp y Llysoedd Barn Brenhinol sydd a'i swyddogaeth yn cynnwys gweinyddu'r Llys Apêl, Yr Uchel Lys a'r Gwasanaeth Profiant.
Beth yw ein gwaith ni
Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi sy'n gwneud y gwaith gweinyddol ac yn darparu cefnogaeth i'r Llys Apêl, yr Uchel Lys, Llys y Goron, y llysoedd ynadon, y llysoedd sirol a'r Gwasanaeth Profiant.
Strategaeth fusnes ( 324.52Kb)
Mae'n Strategaeth Fusnes yn nodi'r amcanion ar gyfer creu gwasanaeth llys sy'n fodern, yn effeithiol ac yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae ein hamcan strategol yn canolbwyntio ar fynediad at gyfiawnder, gostwng costau, lleihau oedi, a pharch, gan arwain at weddnewid gwasanaethau erbyn 2010.
Cynllun busnes
Mae'n Cynllun Busnes yn nodi ein swyddogaeth allweddol wrth gyflawni tair o flaenoriaethau'r AMC dros y pum mlynedd nesaf:
Lleihau troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, amddiffyn hawliau'r dinesydd sy'n parchu'r gyfraith a gwneud ein cymunedau'n fwy diogel.
Diogelu pobl agored i niwed, yn enwedig plant mewn perygl a phobl sydd wedi'u gwthio i gyrion cymdeithas.
Galluogi pobl i ddatrys eu problemau drwy hyrwyddo a gweithredu trefn gyflymach a mwy effeithiol o ddatrys anghydfodau.
Adroddiad blynyddol
Mae'n Adroddiad Blynyddol yn disgrifio'r hyn r'ydym wedi'i gyflawni yn 2005-2006 gan gymharu hynny â'r amcanion a nodwyd yn y cynllun busnes (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).
Partneriaid yn y system cyflawnder
Mae GLlEM yn ymroddedig i weithio'n agos gyda'n mudiadau partner, gan weithio gyda'r Swyddfa Gartref, Swyddfa Diwygio Cyfiawnder Troseddol, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu.
Gweithio i ni
Ein swyddi gwag cyfredol, cyfleoedd gyrfaol a chyfarwyddyd gyrfa ar weithio i GLlEM.
Cydraddoldeb Anabledd
Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb anabledd yn ein llysoedd ac ar gyfer ein cwsmeriaid. Mae Cynllun Cydraddoldeb Anabledd AMC yn gosod allan ein blaenoriaethau gweithredu ar gyfer 2006-2009.
Hanes GLlEM
Hanes y llysoedd a GLlEM yn fyr, ynghyd â gwybodaeth am rolau ac adeiladau o ddiddordeb.
Cysylltwch â ni
Manylion cysylltu ar gyfer GLlEM.
