English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Ynglŷn â GLIEM
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Byrddau Llysoedd Lleol Adroddiadau blynyddol Cynlluniau busnes

Byrddau Llysoedd


Beth yw Byrddau Llysoedd?

Bu i Adrannau 4 a 5 ac Atodlen 1 i'r Ddeddf Llysoedd 2003 wneud darpariaeth i sefydlu Byrddau Llysoedd i weithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi er mwyn gweinyddu'r llysoedd yn effeithiol ac effeithlon. Nid yw'r Byrddau Llysoedd yn rheoli na gweinyddu'r llysoedd eu hunain, ond yn rhoi cyngor ac yn gwneud argymhellion adeiladol i feithrin gwelliant yn y gwasanaethau gweinyddol a ddarperir. Ceir 42 o Fyrddau Llysoedd ledled Cymru a Lloegr, un ar gyfer pob ardal weinyddol leol yn seiliedig ar yr ardaloedd cyfiawnder troseddol

Swyddogaeth y Bwrdd Llysoedd yw:

Mae Byrddau Llysoedd yn cydweithio â Chyfarwyddwr Ardal GLlEM

Gall penderfyniadau am weinyddiaeth llysoedd effeithio ar ystod eang o bobl:

Swyddogaeth Bwrdd y Llysoedd yw sicrhau y rhedir y llysoedd mewn ffordd sy'n cydnabod eu gwahanol anghenion. Medrant wneud hynny drwy:

Swyddogaeth ymgynghorol sydd i Fyrddau Llysoedd, nid ydynt yn rhedeg y llysoedd eu hunain. Maent yn rhoi eu barn, yn cynnig cyngor ac yn gwneud argymhellion adeiladol i alluogi'r asiantaeth i wella'r gwasanaeth a ddarperir ganddi yn yr ardal leol. Nid oes gan y Byrddau Llysoedd unrhyw gyfrifoldebau mewn perthynas â gwaith y farnwriaeth ac y mae holl aelodau'r Byrddau Llysoedd yn parchu a chefnogi annibyniaeth y farnwriaeth. Yn hytrach, maent yn cynnig cyfle i bobl leol gyfrannu at benderfyniadau megis:

Bydd pob Bwrdd Llysoedd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, gan ganiatáu iddynt gymryd golwg gyffredinol ar weinyddiaeth y llysoedd yn eu hardal. Maent yn cyfarfod gyda'r Cyfarwyddwr Ardal, sy'n darparu papurau i'w hystyried gan aelodau'r Bwrdd Llysoedd. Ceir Cyfarwyddyd Statudol i'w cynorthwyo i gyflawni'u swyddogaeth yn llawn ac mae'r Rheoliadau Byrddau Llysoedd (Penodiadau a Gweithdrefn) 2004 yn nodi rhai o'r gweithdrefnau allweddol a ddilynir gan y Byrddau.

Aelodaeth

Mae pob Bwrdd Llysoedd yn cynnwys aelodau o wahanol gymunedau ac o gefndiroedd amrywiol o fewn ardal y Bwrdd Llysoedd, ac yn edrych ar draws yr awdurdodaethau sifil, teulu a throseddol. Mae pob aelod o'r Byrddau Llysoedd wedi ymroi i wella'r ffordd y mae'r system llysoedd yn gweithio yn eu hardal.

Rhaid i bob Bwrdd Llysoedd fod ag o leiaf saith o aelodau:


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 14 November 2008 14:38. Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
. Telerau ac Amodau .