Cyhoeddiadau
Yn yr adran hon fe ddeuwch o hyd i gopïau o adroddiadau, cynlluniau busnes, cyfarwyddiadau, taflenni. Yn ogystal ag adroddiadau ar gyfer Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi fe welwch adroddiadau hanesyddol ar gyfer Pwyllgorau Llysoedd Ynadon a'r Gwasanaeth Llys.
Gellir cael rhagor o gyhoeddiadau oddi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, gan gynnwys ymgynghoriadau, ystadegau, deddfwriaeth, gwybodaeth gorfforaethol, adroddiadau polisi ac adroddiadau ymchwil.
Adroddiadau Blynyddol
|
Yma fe welwch fersiynau pdf o adroddiadau blynyddol ar gyfer y Gwasanaeth Llys a'r Pwyllgorau Llysoedd Ynadon. Cyhoeddir adroddiadau Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yma hefyd. Nid yw pob adroddiad ar gael yn electronig. Os na ddeuwch o hyd i adroddiad yma ar gyfer Ardal benodol neu Bwyllgor Llysoedd Ynadon, cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Ardal perthnasol a fydd yn gallu darparu copi papur, os gwelwch yn dda.
Cynlluniau Busnes
|
Yma fe ddeuwch o hyd i gopïau o gynlluniau busnes ar gyfer pob Ardal, ynghyd ag adroddiadau hanesyddol ar gyfer y Gwasanaeth Llys a'r Pwyllgorau Llysoedd Ynadon.
Fframweithiau a Chanllawiau GLlEM
|
Yma fe welwch gopïau electronig o ganllawiau ysgrifenedig a ddarparwyd ar gyfer y proffesiynau, a rhai o ddiddordeb cyffredinol.
Amrywiol
|
Yma fe ddeuwch o hyd i wybodaeth ynglŷn ag GLlEM gan gynnwys Rhyddid Gwybodaeth a'r Cynllun Iaith Gymraeg.
Polisi a Strategaeth
|
Yma fe welwch ddogfennau polisi a strategaeth, papurau ymgynghori ac ymatebion.
^ Brig
|
