Y Gwasanaeth Profiant
Beth yw profiant?
Pan fydd person yn marw, rhaid i rywun ddelio â'u hystad (yr arian, yr eiddo a'r meddiannau y mae'r person wedi'u gadael) drwy gasglu'r holl arian at ei gilydd, talu unrhyw ddyledion a dosbarthu'r hyn sy'n weddill i'r bobl sydd â hawl iddo. Awdurdod y llys yw profiant; a roddir i berson neu bersonau i weinyddu ystad person sydd wedi marw, a'r Grant Cynrychiolaeth yw enw'r ddogfen a roddir gan y Gwasanaeth Profiant. Fel arfer mae'r rhai sy'n dal yr asedau yn gorfod cael y ddogfen hon fel prawf i ddangos bod y person neu'r personau iawn wedi cael caniatâd y Gwasanaeth Profiant i weinyddu ystad yr ymadawedig.
Beth yw'r Gwasanaeth Profiant?
Mae'r Gwasanaeth Profiant yn rhan o Adran Deulu yr Uchel Lys. Mae'n delio gyda busnes profiant 'di-gynnen' (lle nad oes anghydfod am ddilysrwydd ewyllys neu hawl i gael grant), ac yn rhoi grantiau cynrychiolaeth, naill ai:
- Profiant (pan fo'r ymadawedig wedi gadael ewyllys ddilys a bod ysgutor yn gweithredu)
- Llythyrau gweinyddu gydag ewyllys (pan fo person wedi gadael ewyllys ddilys ond lle nad oes ysgutor yn gweithredu)
Neu - Llythyrau Gweinyddu (fel arfer pan nad oes ewyllys ddilys).
Mae'r grantiau hyn yn penodi pobl a elwir yn gynrychiolwyr personol i weinyddu ystad yr ymadawedig.
Strwythur presennol y Gwasanaeth Profiant
Ar hyn o bryd mae'r Gwasanaeth Profiant yn cynnwys:
- Y Prif Gofrestrfa yn Llundain
- 11 o Gofrestrfeydd Profiant Dosbarth
- 18 o Is-gofrestrfeydd Profiant ar draws Cymru a Lloegr
Mae nifer o "swyddfeydd" profiant hefyd (fel arfer ystafell mewn llys neu adeilad awdurdod lleol) lle bydd staff, yn ôl yr angen, yn mynychu i gyfweld ceisyddion personol.
Dod o hyd i Gofrestrfa Brofiant
