English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adolygiad o'r Cynllun Ffioedd Teulu Graddedig Cyfarwyddiadau Ymarfer Rhestr Ddyddiol

Yr Adran Deulu


Gan yr Adran hon o'r Uchel Lys y mae'r awdurdodaeth i ddelio gyda phob mater priodasol:

Mae hefyd yn delio gyda:

Mae Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu hefyd yn gyfrifol am gynnal mynegai'r holl ddyfarniadau absoliwt (Ysgariadau a Dirymiadau) yng Nghymru a Lloegr.

Rheolwr Grŵp yr Adran Deulu

Rheolwr Ardal y Grŵp Teulu sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwaith yr Adran Deulu'n mynd rhagddo'n hwylus ac fe'i cefnogir gan Reolwr Llys Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu, Rory Munro.

^Brig

Cangen Weinyddiaeth yr Adran Deulu

Cangen Weinyddiaeth yr Adran Deulu yw'r gangen fwyaf ym Mhrif Gofrestrfa'r Adran Deulu. Mae 9 adran yn y gangen a phob un â'i chyfrifoldeb ei hun. Dyma nhw:

Mae'r Adran Ysgaru A (020 7947 6954) (PRFD.divorcea@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yn delio â phob mater sy'n ymwneud â chyhoeddi a chyflwyno deisebau Ysgaru, Ymwahaniad Cyfreithiol a Dirymedd. Mae hefyd yn prosesu deisebau ar gyfer Datganiadau Priodas a Datganiadau Rhiant. Bydd Deisebau dan y Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 hefyd yn cael eu ffeilio yn yr Adran hon. Caiff ceisiadau am Gyflwyniad gan Beili a chyflwyno tybiedig /hepgor eu prosesu yn yr adran hon.

Mae Adran Ysgaru B (020 7947 7013) (PRFD.divorceb@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yn delio'n bennaf â phrosesau (ceisiadau am Gyfarwyddiadau ar gyfer Treial) sy'n arwain at Ddyfarniad Nisi ac Absoliwt i'r partïon.

Mae Adran Dyfarniadau C (020 7947 6971) (PRFD.divorcec@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yn prosesu ceisiadau am orchmynion ariannol a gwaharddebau peidio â molestu, ceisiadau cyffredinol a gofnodir mewn achosion ysgaru a chychwyn ceisiadau Cychwynnol. Hefyd, maent yn delio gyda'r holl ddogfennau ysgaru a gyflwynir dim ond i'w gosod ar ffeil y llys.

Mae Adran Chwilio Dyfarniadau Absoliwt (020 7947 7017) (PRFD.decreeabsolutesearches@HMcourts-service.gsi.gov.uk) Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu'n cadw mynegai canolog o'r holl Ddyfarniadau Absoliwt a roddwyd yng Nghymru a Lloegr ers 1858 hyd heddiw. Bydd yr Adran hon hefyd yn cadw mynegai canolog o Orchmynion Diddymu terfynol yn dilyn y newidiadau i ddeddfwriaeth ym mis Rhagfyr 2005. Mae'r Adran hefyd yn delio ag ymholiadau sy'n ymwneud â thaliadau Atafaelu Enillion a Gorfodaeth Ddwyffordd.

^Brig

Mae materion sy'n ymwneud â phlant yn cael eu rhannu rhwng 3 adran:

Mae Cyfraith Gyhoeddus (020 7947 7930) (PRFD.publiclaw@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yn delio gydag achosion gofal sy'n ymwneud ag awdurdodau lleol ac yn sicrhau bod pawb yn cadw at Brotocol rheoli achosion barnwrol.

Mae Cyfraith Breifat (020 7947 7006) (PRFD.privatelaw@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yn delio â phob cais preswylio, cyswllt a materion penodol rhwng rhieni a/ neu berthnasau eraill. Bydd achosion Wardiaeth, Herwgydio ac Awdurdodaeth Gynhenid ar gyfer yr Uchel Lys hefyd yn cael eu cychwyn yn yr Adran hon. Bydd gwaharddebau peidio â molestu'n cael eu prosesu yn yr Adran hon hefyd oni fydd cais ynghylch plentyn/plant y teulu wedi'i ffeilio (fel arall, Adran C fyddai'n prosesu'r achos). Maent yn cynnal y gofrestr ar gyfer Cytundebau Cyfrifoldeb Rhiant.

Mae'r Adran Mabwysiadu'n delio gyda phob agwedd ar fabwysiadu o'r cychwyn i gyflwyno'r gorchmynion terfynol a wneir gan Farnwyr yr Uchel Lys. (Sylwch: Fe'i hystyrir yn amhriodol anfon e-bost at y llys ynghylch materion mabwysiadu).

Prif Swyddogaeth Adran y Llys (020 7947 6020) (PRFD.familycourtorders@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yw rhoi cefnogaeth weinyddol i'r Barnwyr Rhanbarth a sicrhau bod y llysoedd yn gweithredu'n ddidrafferth ac yn cynhyrchu pob gorchymyn a wneir gan y (Dirprwy) Farnwyr Rhanbarth. Maent hefyd yn prosesu pob cais am drawsgrif o wrandawiadau a dyfarniadau a gynhelir yn y Gofrestrfa.

Mae'r Swyddfa Rhestru (020 7947 7400) (PRFD.districtjudgeslistings@HMcourts-service.gsi.gov.uk) yn rhestru pob achos gerbron y Barnwyr Rhanbarth yn First Avenue House. Byddant hefyd yn sefydlu galwadau cynhadledd teleffon (os ydynt ar gael). Bydd yr Adran hefyd yn paratoi'r Rhestr Ddyddiol; bydd hon yn nodi'r achosion i'w gwrando bob dydd ac i ba lys y cawsant eu neilltuo. Mae'r Rhestr Achosion ar gyfer y diwrnod gwaith canlynol ar gael o 3.00pm ymlaen. Ewch i www.hmcourts-service.gov.uk/cms/list_prfd.htm (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

^Brig

Arweinir Cangen Weinyddiaeth yr Adran Deulu gan 2 Ddirprwy Reolwr Llys; mae Amanda Connolly yn gyfrifol am Ysgaru a Rhestru, ac Anne Marie Munn yn gyfrifol am yr Adrannau Cyfraith Gyhoeddus a Phreifat, a'r Adran Mabwysiadu a'r Llys.

Cangen Clerc Rheolau - Adran Deulu (020 7947 6543) (PRFD.Familyhighcourt@HMCourts-service.gsi.gov.uk) Mae'r Adran hon yn gyfrifol am holl waith rhestru'r Uchel Lys Teulu a'r Barnwyr Cylchdaith a gorchmynion sy'n deillio ohonynt. Yr adran hon hefyd sy'n paratoi'r Rhestr Ddyddiol; sy'n nodi'r achosion i'w gwrando bob dydd a'r llys y cawsant eu neilltuo iddynt, ewch www.hmcourts-service.gov.uk/cms/list_family.htm (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg).

Ruth Few yw'r Dirprwy Reolwr Llys i Gangen Clerk y Rheolau.

Fe allwch chi anfon e-bost yn awr i'r Brif Gofrestrfa

Pan fyddwch yn anfon neges e-bost at y Brif Gofrestrfa mae'n rhaid i linell pwnc eich neges gynnwys un neu fwy o'r canlynol:

Chewch chi ddim ffeilio unrhyw ddogfen mewn Achos Teulu dros yr e-bost. Bydd unrhyw atodiad y bwriadwyd iddo gael ei ffeilio yn cael ei anwybyddu.

Pan fyddwch yn anfon e-bost atom, byddwch yn derbyn ymateb awtomatig yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich e-bost. Fe gewch ymateb pellach o fewn 5 diwrnod gwaith, a fydd naill ai'n ateb eich ymholiad neu'n nodi pa bryd y byddwch chi'n derbyn ateb ac ar ba ffurf (gweler isod).

^Brig

Sylwch y gallai'r Llys ystyried bod natur cynnwys ei ymateb yn ei gwneud hi'n amhriodol ymateb i'ch ymholiad dros yr e-bost. Dan amgylchiadau o'r fath, byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein bwriad.

Gyda golwg ar hyn, byddai'n help petaech yn rhoi rhif ffôn cyswllt, gan y gallai fod yn haws cael sgwrs gyda chi, yn hytrach na gohebu.

Os penderfynwch gysylltu â ni dros yr e-bost, peidiwch ag anfon yr un neges ar fformat arall (llythyr, ffacs ac ati) gan y bydd hyn yn arwain at ddyblygu gwaith ac yn peri oedi.

Ymholiadau nad ydynt yn ymwneud ag achosion penodol

Os oes gennych ymholiad cyffredinol nad yw'n ymwneud â mater penodol, fe allwch anfon e-bost i PRFD.Familygeneralenquiries@HMcourts-service.gsi.gov.uk. Caiff y cyfeiriad hwn ei fonitro gan ein Swyddog Gwasanaeth Cwsmeriaid a'n Rheolwr Gwasanaethau TG. Dyma'r cyfeiriad i'w ddefnyddio hefyd os ydych chi eisiau cwyno neu am gyflwyno unrhyw sylwadau arall am ein gwasanaeth. Gallwch holi yma hefyd am y cyfleusterau fideo-gynadledda sydd ar gael yn First Avenue House.


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 07 June 2007 09:10. Chris Hinds.
. Telerau ac Amodau .