English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Ynglŷn â GLIEM
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Adroddiadau blynyddol Cynlluniau busnes Swyddi Gwag

Gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth Weinyddiaeth Cyfiawnder ar gyfer Ymchwilwyr

Gwybodaeth i Ymchwilwyr


Mynediad i'r Llysoedd i Ymchwilwyr nad ydynt yn cael eu cyllido gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder
Sut y mae ceisiadau am fynediad yn gweithio
Gwneud cais am fynediad
A ydyw eich ymchwil yn golygu edrych ar ffeiliau'r llys?
A ydyw eich ymchwil yn golygu arsylwi ar brosesau'r llys?
A ydyw eich ymchwil yn cynnwys gofyn cwestiynau i ddefnyddwyr y llys, staff y llys neu i aelodau o'r farnwriaeth?
Sut i gysylltu gyda ni

Mynediad i'r Llysoedd i Ymchwilwyr nad ydynt yn cael eu cyllido gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder

Mae Uned Ymchwil y Weinyddiaeth Cyfiawnder yn bwynt cyswllt ar gyfer ymchwilwyr nad ydynt yn cael eu cyllido gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder (ymchwilwyr academaidd ac a gyllidir gan y llywodraeth yn bennaf) sydd eisiau gwneud ymchwil mewn llysoedd ar wahân i lysoedd crwner. Dylech siarad gyda ni os ydych eisiau darllen ffeiliau'r llys, arsylwi ar fusnes y llys, neu am gyfweld staff a defnyddwyr y llys neu aelodau o'r farnwriaeth. Mae hyn hefyd yn berthnasol pan fyddwch eisiau edrych ar ddogfennau a gedwir y tu allan i'r llysoedd gan bartïon unrhyw achos, fel rhai a gedwir ar ffeiliau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol, ond sy'n dal i fod yn ddogfennau llys.

Mae'r drefn ar gyfer rhoi caniatâd i wneud ymchwil yn y llysoedd fel arfer yn golygu cysylltu gyda thair swyddfa arall o leiaf o fewn yr adran, felly mae'n gallu cymryd amser. Dylech felly ystyried hyn yn eich amserlen ymchwil a gwneud yn siwr eich bod yn dod atom yn ddigon buan cyn dechrau eich ymchwil. Mae hefyd yn bwysig fod unrhyw wybodaeth a roddwch i ni yn rhan o'r cynllun terfynol ar gyfer y prosiect, achos os oes unrhyw beth yn newid, efallai y bydd raid i ni ail-asesu'r caniatâd o'r dechrau. Yn gyffredinol, dylech ddod atom yn syth ar ôl dod o hyd i gyllid, gan fod cynigion yn gallu newid wrth drafod cyllid. Fodd bynnag, os ydych am drafod eich cynlluniau, cofiwch gysylltu.

^ Brig

Sut y mae ceisiadau am fynediad yn gweithio

Mae cais am fynediad yn gallu bod mewn pedwar cam:

^ Brig

Gwneud cais am fynediad

Unwaith y bydd eich cynigion ymchwil yn rhai terfynol, dylech anfon copi atom, gan gynnwys y fethodoleg a manylion llawn ynghylch:

Unwaith y bydd y wybodaeth yma gennym, fe wnawn ein gorau glas i ddelio gyda'ch cais am fynediad cyn gynted ag y bo modd. Ond, oherwydd y gwahanol gamau, mae'n annhebygol iawn y byddwch yn derbyn eich Caniatâd Mynediad Breintiedig mewn llai na 13 wythnos i fod wedi rhoi manylion terfynol eich ymchwil i ni. I hwyluso'r broses hon, dylech ystyried y cwestiynau canlynol wrth baratoi eich cynigion:

^ Brig

A ydyw eich ymchwil yn golygu edrych ar ffeiliau llys?

Mae galwadau trwm ar amser staff y llys, ac mae chwilio am ffeiliau llys yn gallu cymryd amser helaeth. Dylech felly ystyried:

^ Brig

A ydyw eich ymchwil yn golygu arsylwi ar brosesau'r llys?

Os ydych eisiau arsylwi ar wrandawiadau mewn llys agored, fel aelodau eraill o'r cyhoedd mae croeso i chi wneud hynny wrth gwrs. Mewn achosion eraill, byddwch angen caniatâd arbennig. Dylech gofio y cyfyngir ar y math o gofnodi sydd modd ei wneud o unrhyw wrandawiad llys (dim recordio clywedol er enghraifft), ac y dylech fod yn ystyrlon o anghenion a dymuniadau'r partïon a'r staff. Argymhellwn yn gryf eich bod yn trafod gyda'r aelodau perthnasol o'r farnwriaeth cyn dechrau, a dylech gofio y gall y partïon wrthwynebu i'ch presenoldeb yn y llys, ac na fydd y barnwr yn ei ganiatáu.

A ydyw eich ymchwil yn golygu gofyn cwestiynau i ddefnyddwyr y llys, staff y llys neu i aelodau o'r farnwriaeth?

Dylech ystyried a ydych am ddefnyddio holiaduron arolwg neu gynnal cyfweliadau. Yn gyffredinol, mae'n well gan uwch aelodau o'r farnwriaeth gael eu cyfweld, ond dylech wylio rhag disgwyl cael gormod o'u hamser. Mae nifer o gyfyngiadau ar sut y mae defnyddwyr y llys yn cael cymryd rhan:

^ Brig

Sut i gysylltu gyda ni

Uned Ymchwil
5th Floor Open Plan
Selborne House
54-60 Victoria Street
Llundain SW1E 6QW

Rhif ffôn 020 7210 8520
Rhif ffacs 020 7210 0695 neu

E-bostiwch Ni


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 20 May 2008 11:38. Uned Iaith Gymraeg Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .