Dyfarniadau
Mae dyfarniadau o Adrannau Sifil a Throseddol y Llys Apêl ac o'r Llys Gweinyddol, a ddewisir gan y barnwr dan sylw ar gael am ddim ar gronfa ddata Bailii (Sefydliad Gwybodaeth Gyfreithiol Prydain ac Iwerddon). Os nad yw un o ddyfarniadau'r Uchel Lys ar gael ar BAILII, cysylltwch â'r llys yn uniongyrchol i gael copi.
Mae Dyfarniadau Tŷ'r Arglwyddi a gyflwynwyd er 14 Tachwedd 1996 ar gael.
Mae dyfarniadau'r Cyfrin Gyngor hefyd ar gael.
Cofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon
Nid ydym yn cadw manylion dyfarniadau llys sirol ar y safle hwn. Mae'r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon wedi disodli'r Gofrestr Dyfarniadau Llys Sirol ac mae'n cynnwys manylion –
- dyfarniadau'r llys sirol
- gorchmynion gweinyddu'r llys sirol
- dyfarniadau'r Uchel Lys
- dirwyon llysoedd ynadon
- gorchmynion atebolrwydd yr Asiantaeth Cynnal Plant
Mae Rheoliadau'r Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon 2005 (OS Rhif 2005/3595) ar gael.
Daw Rheolau Trefniadaeth Sifil newydd hefyd i rym ar 6 Ebrill. Mae Bwletin gwybodaeth rhif 1 ar gael.
Mae cofrestru dyfarniadau'r Uchel Lys - Bwletin Gwybodaeth Rhif 2 ar gael.
Cronfa Ddata Cyfraith Statud y DU
Cronfa Ddata Cyfraith Statud y DU yw'r rhifyn swyddogol diwygiedig o ddeddfwriaeth sylfaenol y Deyrnas Unedig sydd ar gael ar-lein
