English | Botymau Mynediad | Map o'r Safle | Adborth
Gwybodaeth am
 
Chwiliad manwl

Saesneg

Fersiwn Saesneg o'r Dudalen yma

Gwybodaeth ychwanegol

Canfod Llys ysgaru Dolenni perthnasol Ffioedd y Llys Sirol Ffurflenni a Chanllawiau Llareiddaid Ategol Plant

Gwybodaeth ychwanegol

Canolfan Cyngor ar Bopeth Divorce Aid Swyddfa Gofrestru Gyffredinol Y Gwasanaeth Cyfreithiol Cymunedol

Diddymu Partneriaeth Sifil


Mae diddymu partneriaeth sifil ar gyfer cyplau o'r un rhyw sydd wedi ffurfio partneriaeth sifil a gydnabyddir yn gyfreithiol a'r bartneriaeth honno wedi dod i ben.

I ddiddymu partneriaeth sifil rhaid i chi naill ai fod wedi bod mewn partneriaeth sifil gofrestredig, neu berthynas tramor a gydnabyddir, am ddeuddeg mis. I ddechrau'r broses diddymu rhaid i chi lenwi ffurflen o'r enw "Deiseb", gan roi'r rhesymau (y "ffeithiau") rydych chi'n gwneud cais, er mwyn dangos heb unrhyw amheuaeth bod y bartneriaeth sifil ar ben. Bydd y broses yn mynd gerbron llys a bydd yn rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais am y diddymiad ddarparu tystiolaeth gerbron y llys bod y bartneriaeth sifil wedi chwalu'n anadferadwy.

Os oes gennych blant, rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen o'r enw "datganiad trefniadau". Yn honno, byddwch yn dweud wrth y llys pa gynlluniau a wnaed gennych ar gyfer y plant, unwaith y bydd y diddymiad yn derfynol, e.e. pwy fydd yn gofalu amdanynt a pha drefniadau ydych chi wedi'u gwneud ar gyfer eu cynnal.

Ar ôl cyflwyno'r ddeiseb i'r llys ceir sawl cam arall y mae'n rhaid eu cymryd cyn y gellir diddymu'r bartneriaeth. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain ar gael yn y taflenni a nodir isod.

Ar hyn o bryd gall deg llys ddelio ag achosion partneriaeth sifil. Rhestrir y rhain isod. Os nad yw eich llys lleol wedi'i restru yma, efallai y bydd y llys hwnnw'n gallu rhoi copïau i chi o'r taflenni gwybodaeth a'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch ond ni fyddant yn gallu cychwyn yr achos na delio â'r achos yn y fan honno. Byddant yn eich cyfeirio at un o'r llysoedd dynodedig.

Birmingham (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Brighton (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Bryste (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Caerdydd
Caer (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Caerwysg (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Leeds (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Manceinion (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Newcastle (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)
Prif Gofrestrfa'r Adran Deulu (mae hwn yn cysylltu i dudalen Saesneg)

Dalier sylw: Os ydych yn gwpl gwahanrywiol ac yn dymuno cael ysgariad, edrychwch ar y wybodaeth sydd ar gael am ysgariad.

Ffurflenni a Thaflenni Defnyddiol

1. Cychwyn Achos
D508 Deiseb Diddymiad
D508 (Nodiadau)
D193 Ynghylch diddymiad
D194 Rydw i eisiau cael diddymiad - beth ddylwn ei wneud?
D195 Plant a diddymiad

2. Ymateb
D196 Mae'r atebydd wedi ateb fy neiseb – beth ddylwn ei wneud nesaf?

3. Gorchmynion Amodol a Gorchmynion Terfynol
D197 Mae gen i orchymyn amodol - beth ddylwn ei wneud nesaf?


^ Brig
Mae'r dudalen hon wedi ei diweddaru ddiwetha ar 24 August 2007 10:09. Chris Hinds.
Cysylltwch â ni . Telerau ac Amodau .